Cofnodion seithfed cyfarfod y  Grŵp Trawsbleidiol ar Faterion Gwledig

Ystafell Seminar 1 a 2,

Y Pierhead, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

4 Tachwedd 2014

 

Adolygu trefniadau llywodraethu tirweddau gwarchodedig Cymru

 

Yn bresennol:

Cadeirydd dros dro:             William Powell - Democratiaid Rhyddfrydol             

Ysgrifenyddiaeth:                  Cat Griffith-Williams – Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig (YDCW)

 

Ymddiheuriadau                    Llyr Huws Gruffydd AC (Cadeirydd)

 

Yn bresennol

Aelodau Cynulliad a staff cymorth yr Aelodau:    

                                                Russell George AC (Ceid)

                                                Craig Lawton – Staff cymorth Suzy Davies

 

Siaradwr gwadd                    Yr Athro Terry Marsden – Cyfarwyddwr Athrofa Ymchwil Lleoedd Cynaliadwy, Cadeirydd Annibynnol – Panel Adolygu Tirweddau Dynodedig

 

Hefyd yn bresennol:              Peter Ogden – YDCW,

Dr Roisin Willmott, RTPI (Cymru)

Edward Holdaway - Cyfeillion Parc  Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro a Chynghrair Parciau Cenedlaethol Cymru

Andrew Stumpf Glandŵr Cymru

Greg Pycroft – Llywodraeth Cymru

Andrew Tamplin – Swyddfa’r Post Cyf

Laura Lewis Glandŵr Cymru

Rebecca Brough – Y Cerddwyr

Jim Wilson – Cymdeithas Parc Bannau Brycheiniog

Tegryn Jones – Awdurdod Parc Cenedlaethol Sir Benfro / Parciau Cenedlaethol Cymru

Jo Wall –TACP

Martin Bishop – Confor

David Powell – Confor

Rachel Lewis-Davies – Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr

Charles de Winton –   Cymdeithas Tir a Busnes Cefn Gwlad 

Graham Burrows Ymgyrch Parciau Gwledig yr Alban

Carole Rothwell – Cyfoeth Naturiol Cymru

Howard Sutcliffe – AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy

Beverley Penney –   Y Gymdeithas Mannau Agored

Melanie Doel – Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Siobhan Wiltshire   Is-adran Gynllunio Llywodraeth Cymru

Ruth Bradshaw – Ymgyrch y Parciau Cenedlaethol

Emily Keenen –    Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru

Rachael Sharp – Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt

Madeline Harvard – Cyfoeth Naturiol Cymru

 

1          Adolygu trefniadau llywodraethu tirweddau gwarchodedig Cymru

 

1.1              Ymddiheurodd William Powell AC ar ran Llyr Huws Gruffydd AC, y Cadeirydd presennol, nad oedd yn gallu bod yn bresennol, ac esboniodd y  byddai’n gweithredu fel Cadeirydd yn ystod y cyfarfod hwn. Croesawodd bawb ac agorodd y cyfarfod drwy gyflwyno’r Athro Terry Marsden, y prif siaradwr.

1.2              Dywedodd yr Athro Terry Marsden mor falch ydoedd o gael ei wahodd i gadeirio’r adolygiad hwn o ardaloedd dynodedig Cymru a nododd mor bwysig oedd diogelu’r ardaloedd hyn a sicrhau eu bod yn gweithredu mewn cyd-destun polisi priodol. Tanlinellodd yr angen i ddatblygu dulliau o weithredu sy’n adlewyrchu rôl a pherthnasedd yr ardaloedd dynodedig hyn fel esiamplau o ddatblygu cynaliadwy.

1.3              Esboniodd fod dau gam pendant i’r adolygiad a bod angen cyflwyno adroddiad ar gasgliadau’r cam cyntaf  i’r Gweinidog erbyn diwedd mis Ionawr 2015 cyn dechrau’r ail gam. Disgwylir y bydd y Panel wedi cwblhau’i waith ac wedi cyflwyno’i gasgliadau i’r Gweinidog erbyn diwedd mis Gorffennaf 2015.

1.4              Byddai Cam 1 yn canolbwyntio ar ddau fater; dibenion tirweddau gwarchodedig a’r cynnig i greu un dynodiad ar gyfer Tirwedd Warchodedig. Nododd y byddai cwmpas y rhan hon o’r adolygiad yn debygol o ganolbwyntio ar y newidiadau a fyddai’n angenrheidiol i sicrhau bod dibenion presennol y Parciau Cenedlaethol a’r Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol yn addas i’r diben. Pa bwysau y mae’r Tirweddau Gwarchodedig hyn yn eu hwynebu ar hyn o bryd a sut y gallai’r rhain newid yn ystod y ddwy genhedlaeth nesaf? Faint o bwyslais y dylid ei roi ar gadwraeth yn hytrach nag ar ddiogelu’r tirweddau hyn a sut y gallai’r dibenion hyn newid o ganlyniad i unrhyw newid pwyslais yn y PAC ac unrhyw newid yn sefyllfa’r cymunedau amaethyddol yn yr ardaloedd hyn. Tanlinellodd hefyd y gallai newidiadau o’r fath sbarduno’r angen i ailgloriannu cwmpas egwyddor Sandford a’r flaenoriaeth hierarchaidd y mae’n ei darparu ar hyn o bryd ar gyfer dibenion gwarchod Tirweddau Gwarchodedig.

1.4.1        O ran y trefniadau cyffredinol ar gyfer Rheoli Tirweddau Gwarchodedig, byddai Cam 1 hefyd yn ystyried manteision creu un dynodiad ar gyfer yr holl Barciau Cenedlaethol a’r Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol.

1.5              Cadarnhaodd nad oedd cylch gorchwyl yr Adolygiad yn cynnwys  ystyried y posibilrwydd o gynyddu nifer yr ardaloedd dynodedig, dim ond ystyried a oeddent yn addas i ddibenion heddiw. Credai, fodd bynnag, y dylai’r Adolygiad ystyried sut y gallai unrhyw rôl newydd a roddwyd i Dirweddau Gwarchodedig roi hwb i ardaloedd y tu hwnt i ffiniau ardaloedd dynodedig presennol mewn rhannau eraill o Gymru.

1.6              Credai hefyd ei bod yn bwysig i’r Adolygiad gydnabod yr angen i integreiddio’r gwaith â meysydd polisi eraill a oedd yn cael eu llunio yng nghyd-destun y Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Bil yr Amgylchedd.  

2.         Agorodd yr Athro Marsden y drafodaeth gan ofyn am sylwadau o’r llawr.

 

2.1       Peter Ogden – YDCW: Gofynnodd a ellid tybio nad oes unrhyw ansicrwydd ynghylch ‘dibenion’ deublyg presennol y Parciau Cenedlaethol a diben unigol yr Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol?

Cadarnhaodd yr Athro Marsden fod ganddo feddwl agored am yr holl faterion perthnasol ac er ei bod yn annhebygol y bydd yr ‘egwyddorion’ y tu ôl i’r dibenion presennol yn newid, byddai’n dal yn bwysig sicrhau eu bod yn cael eu mynegi mewn ffordd briodol. Dyna, yn ei dŷb ef, oedd nod cyffredinol yr Adolygiad hwn.

2.2       Yn ogystal â hyn, cyfeiriodd yr Athro Marsden at yr angen i ystyried a ddylid, a sut y dylid,  adlewyrchu materion yn ymwneud ag ecosystemau yn y Dibenion ac, yn yr un modd, y diffiniad o’r term gwarchod natur a’r elfennau gwahanol sydd ynghlwm wrtho, gan gynnwys ei berthynas â’r ail ddiben o addysgu a chodi ymwybyddiaeth y cyhoedd.

2.3       Howard Sutcliffe - Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy: Tanlinellodd nad oedd sicrwydd ynghylch y cymorth grant y mae pob AHNE yn dibynnu arno i ymgymryd â’u gwaith, yn enwedig gan fod cyllid gan awdurdodau lleol dan fygythiad. Pwysleisiodd yr angen i ddefnyddio’r un fformwla ariannu ar gyfer yr holl Dirweddau Gwarchodedig fel nad oedd Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol dan unrhyw anfantais,  a’r posibilrwydd o gryfhau eu brand fel ei fod yr un mor gyfarwydd â brand y Parciau Cenedlaethol.

 

2.4       Rachael Sharp – Yr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt: Nododd y gallai barn y cyhoedd am rôl Tirweddau Gwarchodedig fod yn wahanol i farn pobl broffesiynol.  Awgrymodd  y byddai’r Panel Adolygu, o bosibl, am ystyried y posibilrwydd o ddarparu ar gyfer anghenion cadwraeth y dyfodol ac edrych yn gyffredinol ar beth y byddai hyn yn ei olygu o ran dynodiadau ychwanegol. Soniwyd am Fynyddoedd Cambria ac asedau naturiol pwysig eraill Cymru.  

Dywedodd yr Athro Marsden nad ofynnwyd iddo ystyried dynodiadau newydd ond roedd yn cydnabod bod rhywfaint o orgyffwrdd. Roedd yn rhagweld y byddai’r Panel am ystyried ehangu dynodiadau a bod y brîff a gafodd yn annog y Panel i feddwl mewn ffordd gwbl newydd.

2.5       David Powell Confor : Trafododd yr ‘egwyddorion’ a gofynnodd a oedd yn amhosibl eu newid. Os oes modd newid Deddf 1948, holodd a fyddai dymuniad i newid y ‘cymal  amcanion’.

Ymatebodd yr Athro Marsden drwy nodi y bydd y modd yr ymdrinnir â datblygu cymdeithasol ac economaidd yn elfen bwysig o’r drafodaeth. Pwysleisiodd sut y gallai Tirweddau Gwarchodedig gyfrannu at ffyniant cefn gwlad, lles cymunedau gwledig a datblygu economaidd, ac roedd hyn i gyd yn rhan o gylch gorchwyl yr Adolygiad. Tanlinellodd y ffaith bod llawer o Barciau Cenedlaethol yn awr ynghlwm wrth gynlluniau ynni adnewyddadwy  cymunedol. Pwysleisiodd yr angen i ddileu’r gwrthdaro rhwng yr amgylchedd ar y naill law a datblygiad ar y llall ac i feddwl yn fwy ymarferol am bwysigrwydd datblygiad o ran sicrhau’r canlyniadau gorau i bawb. 

2.6       Edward Holdaway - Cyfeillion Parc  Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro a Chynghrair Cymdeithasau Parciau Cenedlaethol Cymru: Gofynnodd at bwy’r fyddai unrhyw ddibenion newydd yn cael eu hanelu - at y cymunedau Tirweddau Gwarchodedig lleol ynteu’r genedl yn ei chyfanrwydd. Teimlai y dylid ystyried y ddau.

Mynegodd ei bryder hefyd am y diffyg arweinyddiaeth genedlaethol  ar gyfer Tirweddau Gwarchodedig er gwaethaf y ffaith ei bod yn amlwg fod y cyhoedd yn credu bod ardaloedd dynodedig yn sylfaenol bwysig iddynt hwy ac i Gymru fel cenedl. 

Gofynnodd i’r Adolygiad  ystyried y berthynas rhwng y tir a’r môr yn arbennig gan fod nodweddion llawer o dirweddau gwarchodedig ar yr arfordir yn deillio o’u nodweddion arbennig sydd ynghlwm wrth eu cysylltiad â’r môr. Roedd yn gobeithio y  byddai’r Adolygiad yn gwneud argymhellion i ymestyn ffiniau Tirweddau Gwarchodedig yr arfordir i’r môr.

Dywedodd yr Athro Marsden y bydd yn ystyried Cynllunio Morol.

 

2.7       Wrth groesawu’r Adolygiad, nododd Charles de Winton Cymdeithas Tir a Busnes Cefn Gwlad - fod y Parciau Cenedlaethol yn “Frand mawr a phwysig”.

 

Dylid ystyried rôl datblygu economaidd yn yr ardaloedd hyn yn ofalus o safbwynt y rhai sy’n rheoli’r dirwedd.

 

Roedd yr Athro Marsden yn cydnabod y byddai unrhyw bolisi amaethyddol cwmpasog yn cael effaith sylweddol ar ddefnyddio tir yn yr ardaloedd hyn a’i bod yn bwysig felly sefydlu sefydliadau cenedlaethol sy’n creu synergedd rhwng y sectorau cyhoeddus, preifat a dinesig. Wrth gydnabod bod y sector amaethyddol yn newid, tanlinellodd ei bod yn bwysig sicrhau bod unrhyw gynlluniau’n  gydnaws yng nghyd-destun rheoli tir amaethyddol. 

           

2.8       Tegryn Jones - Prif Weithredwr PCNPA a hefyd Parciau Cenedlaethol  Cymru: Roedd yn croesawu’r Adolygiad ac yn cydnabod ei bod yn bryd cyflwyno newidiadau. Tanlinellodd nad oedd fawr neb yng Nghymru yn berchen ar Barciau Cenedlaethol Cymru.

Serch hynny, gofynnodd yn benodol a fyddai’r Panel yn gallu ystyried gwneud argymhellion am rôl y Parciau Cenedlaethol yn y system gynllunio o ran datblygu a defnyddio tir.  

Esboniodd yr Athro Marsden nad oedd cylch gorchwyl yr adolygiad yn cynnwys hyn, ond roedd wedi cael gwybod y byddai’r Gweinidog yn gwneud cyhoeddiad am y Parciau Cenedlaethol a’r Bil Cynllunio. Byddai’r cyhoeddiad hwn yn dylanwadu ar Gam 2 o waith y Panel. Nododd hefyd y byddai’n ansensitif ar ran y Panel i beidio ag anwybyddu sylwadau ar y mater hwn a’u trosglwyddo i’r Gweinidog, i’w hystyried wrth wneud penderfyniadau yn y dyfodol.

2.9       Natalie Rees: Awgrymoddy byddai’n bwysig i’r panel Adolygu gysylltu’r gwaith a wnaed gan Peter Davies yng nghyswllt yr ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch Bil Cenedlaethau’r Dyfodol, drwy gynnal y Sgwrs Genedlaethol:  “Y Gymru a Garem.”

2.10     Andrew Stumpf Glandŵr Cymru: Awgrymodd y dylai’r panel Adolygu ystyried yr “Astudiaeth Lle Dwfn” ac osgoi unrhyw demtasiwn i chwilio am atebion hawdd i broblemau. Pwysleisiodd bwysigrwydd a gwerth meddwl am atebion hirdymor a sicrhau bod unrhyw newidiadau’n ychwanegu gwerth at y sefyllfa bresennol.

Gofynnodd yr Athro Marsden am awgrymiadau ynghylch y mathau o arferion da sy’n adlewyrchu hyn, a dywedodd y byddai’r Panel croesawu’n arbennig enghreifftiau o weithgareddau, cysylltiadau ac arferion sy’n gweithio’n dda ar hyn o bryd.

2.10     Madeline Harvard - Cyfoeth Naturiol Cymru: Gan nad oedd Cam 1 o’r adolygiad yn dod i ben tan ddiwedd mis Ionawr 2015 ac na chaiff Cam 2 ei gwblhau tan fis Mehefin/Gorffennaf 2015, gofynnodd sut fydd canlyniadau’r ddau gam yn dylanwadu ar gynnwys y Biliau amrywiol sy’n cael eu hystyried ar hyn o bryd.  Mae’r un mor bwysig ystyried y cysylltiad rhwng y gwaith hwn a’r gwaith yn ymwneud â’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol a gynigir o dan y Bil Cynllunio. Roedd ganddi bryder penodol am y ffaith na fyddai’r materion hyn yn cael eu cydgysylltu.

 

Ymatebodd yr Athro Marsden drwy ddweud mai’r Gweinidog a bennodd ffiniau’r astudiaeth hon ac ef hefyd oedd yn gyfrifol am y tri Bil y cyfeiriwyd atynt.

 

2.11     Carys Howells: Nododd fod angen i’r Adolygiad ystyried y sefyllfa yn y tymor hir a gwneud penderfyniadau ar sail yr hyn a ddylai ddigwydd ymhen 50-100 o flynyddoedd. Ar ôl penderfynu at hyn, yna dylai fod yn haws pennu blaenoriaeth tymor byr. Awgrymodd y byddai’n ddefnyddiol i’r Panel ystyried enghreifftiau da o’r hyn a oedd yn gweithio’n dda mewn rhannau eraill o’r byd. Yn y cyswllt hwn, cydnabuwyd pwysigrwydd rôl a chyfraniad Tirweddau Gwarchodedig Cymru at agenda iechyd y genedl.   

2.12     William Powell AC: Cyn gadael fel Cadeirydd Dros Dro’r Grŵp, awgrymodd y dylai’r Panel ystyried sut y gallai’r Tirweddau Gwarchodedig apelio mwy at gynulleidfaoedd newydd, yn enwedig pobl ifanc.

Cadarnhaodd yr Athro Marsden fod hyn yn broblem roedd y Panel yn ymwybodol ohoni ac y byddai’n rhan o’u trafodaethau.

2.13     Beverley Penney – Y Gymdeithas Mannau Agored: Gofynnodd pryd oedd y  dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau i’r Panel.

Cadarnhawyd mai’r dyddiad cau ar gyfer derbyn sylwadau oedd 27 Tachwedd 2014 ac y byddai Llywodraeth Cymru yn eu coladu ac yn gweithredu fel Ysgrifenyddiaeth at y diben hwnnw.

Byddai cyfres o gyfarfodydd i randdeiliaid, a fyddai’n cael eu hwyluso’n annibynnol, yn cael eu cynnal rhwng 10 a 14 Tachwedd hefyd.

2.14     Ruth Bradshaw – Ymgyrch y Parciau Cenedlaethol: Rhannodd arfer da’n gysylltiedig â rhaglen ‘Mosaig’ Cymru ac awgrymodd y gellid creu cysylltiadau pellach drwy’r gwaith hwn pe bai’r Panel am gael barn grwpiau lleiafrifoedd ethnig.

Diolchwyd iddi am y gwahoddiad

 

2.15     Wrth i’r drafodaeth ddirwyn i ben, daeth yn amlwg bod llawer yn teimlo bod gwaith i’w wneud eto o ran dynodi Tirweddau Gwarchodedig Cymru a’r gobaith oedd y byddai’r Panel yn ystyried y mater hwn yn enwedig os oedd dymuniad i’r Parciau Cenedlaethol a’r Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol ddatblygu’n ganolfannau ar gyfer rheoli cyfoeth naturiol a datblygu cynaliadwy.  

 

2.16     Peter Ogden - YDCW: nododd fod y Confensiwn Tirweddau Ewropeaidd yn datgan bod pob tirwedd yn bwysig a thanlinellodd yr angen i ganlyniadau’r Adolygiad sicrhau bod cysylltiad ymarferol yn cael ei greu rhwng Tirweddau Gwarchodedig a’u tirweddau cyfagos, yn enwedig os ydym am atal a gwrth-droi’r broses o  chwalu cynefinoedd a  thirweddau. Credai y dylai’r holl fuddion sydd ynghlwm wrth Barciau Cenedlaethol ac  Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol lifo’n fwy amlwg y tu hwnt i’w ffiniau yn y dyfodol.  

 

3.         Sylwadau i gloi

 

3.1       Diolchodd aelodau'r Grŵp Trawsbleidiol ar Faterion Gwledig i William Powell AC am Gadeirio'r cyfarfod.

 

 

3.2       Wrth i’r cyfarfod ddod i ben, diolchwyd i’r Athro Marsden am gynnig trosolwg addysgiadol a defnyddiol ar yr Adolygiad arfaethedig ac i bawb a a gyfrannodd at y drafodaeth.

 

3.3       Cynigiwyd y dylid cynnal cyfarfod arall o’r Grŵp hwn i gynnig fforwm defnyddiol i gyflwyno a hybu gwaith yr Ail Gam o waith y Panel. Byddai’r cynnig hwn yn cael ei drafod gyda Chadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol a byddai cyfarfod yn cael ei drefnu ar adeg addas yn y Flwyddyn Newydd.    

 

Daeth y cyfarfod i ben am 13.30